Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Digwyddiad bwrdd crwn yn ymwneud â’r ymchwiliad ar Fil Awtistiaeth (Cymru), a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2018

Trafodaethau bord gron ar y Bil Awtistiaeth

Sesiynau gyda rhieni plant ag awtistiaeth (sy’n ymwneud ag elusennau awtistiaeth)

Cymerodd unigolion o’r grwpiau canlynol ran mewn trafodaethau gydag Aelodau: Grŵp Cymorth Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (NAS) Pen-y-bont ar Ogwr, Grŵp Cymorth NAS Caerdydd a'r Fro, One Life, Glynebwy, Chinese in Wales a Grŵp Cymorth NAS Sir Benfro.


 

 

1.    Sylwadau ar awtistiaeth

·         Mae awtistiaeth yn gyflwr gydol oes. Mae’n parhau gyda'r person am byth. Nid yw mesurau tymor byr yn mynd i weithio. Mae angen ariannu cymorth am oes.

·         Hyd yn oed os oes gan rywun anghenion cymhleth, yr awtistiaeth sy'n sylfaenol – mae’n effeithio ar bopeth arall.

·         Yr hyn y mae’n rhaid i bobl ei ddeall yw mai'r gwahaniaeth mawr rhwng awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill yw nad oes dim cyffuriau i reoli awtistiaeth.

 

2.   A oes angen y Bil?

Dywedodd pob un o'r cyfranogwyr fod y Bil yn angenrheidiol:

·         Credu’n bendant bod angen Bil.

·         Cytuno’n llwyr bod y Bil yn angenrheidiol.

 

Roedd y rhesymau a roddwyd yn cynnwys:

·         Bydd yn helpu gydag atebolrwydd - mae angen i staff fod yn atebol am ofal y plentyn hwnnw.

·         Bydd yn golygu gwell defnydd o adnoddau. Nid yw Cynorthwywyr Cymorth Dysgu yn cael dim hyfforddiant mewn awtistiaeth. Mae dymuniad am hyfforddiant gorfodol.

·         Gellir ei ddefnyddio i orfodi hawliau - 'Rwy'n gwybod bod gan fy mhlentyn yr hawliau hyn o dan y Ddeddf Awtistiaeth'.

·         Gellid gorfodi a deall hawliau o dan Fil.

·         Mae ein plant yn cael eu methu

·         Mae angen rhywbeth statudol arnom, gydag atebolrwydd

·         Mae rhieni'n daer am gymorth

·         Mae angen i’r Cynulliad sefyll o blaid rhieni

·         Rydym wedi rhoi cynnig ar ddulliau eraill ac nid ydynt wedi gweithio.

·         Dywedodd un person ei fod wedi bod ar grŵp a oedd yn datblygu'r strategaeth awtistiaeth gyntaf 10 mlynedd yn ôl, a dywedodd ei fod yn siomedig â'r cynllun gweithredu terfynol. Nid oedd ganddo rym ac nid oedd yn gweithio. Bwriad y strategaeth awtistiaeth oedd datrys popeth. Nid oedd yn gweithio ac rydym wedi colli ffydd ynddi.

 

3.   Sylwadau ar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

·         Nid yw'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn diwallu anghenion ein plant.

·         Nid yw pawb 'sy'n gweithredu ar lefel uchel' yn gymwys ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Efallai bod ganddynt IQ uchel ond eu bod yn cael trafferth â sgiliau bywyd dyddiol.

·         Mae angen hyfforddiant mewn awtistiaeth ar y gwasanaethau cymdeithasol.

·         Byddai'r Bil yn darparu ar gyfer asesu a chynllunio gwell ar gyfer diwallu anghenion gofal - nid yw'n digwydd ar hyn o bryd.

·         Mae pobl sydd ag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig (ASD) ac IQ uchel, ond sydd heb anabledd dysgu neu gyflwr iechyd meddwl, yn cael eu methu.

 

 

4.   A oes cynnydd yn cael ei wneud? A ydych wedi gweld gwelliannau dros y blynyddoedd diwethaf?

·         Os rhywbeth, mae'n ymddangos bod pethau wedi llithro’n ôl.

·         Mae cyfyngiadau ar gyllid cynghorau’n golygu eu bod yn defnyddio'r darparwyr rhataf, nad ydynt o reidrwydd yn darparu'r gwasanaeth mwyaf priodol (rhoddwyd enghraifft o ddyn 23 oed a gafodd ofalwr benywaidd 18 oed. Nid oedd yn briodol a dim ond am ychydig ddyddiau y parhaodd).

·         Nid yw grwpiau cymorth fel One Life a Grwpiau Cymorth NAS yn cael dim cyllid ac maent yn dibynnu'n helaeth ar wirfoddolwyr sy’n rhieni - "Pe na bawn i’n gwneud One Life, ni fyddai fy mab yn cael dim."

·         Nid yw'r gwasanaethau ar gael.

·         Mae gwasanaethau statudol yn cyfeirio pobl atom a gwirfoddolwyr ydym ni!

·         Mae cymorth parhaus mor anwadal.

 

 

5.   Diffyg gwybodaeth briodol

·         Mae llawer o arian wedi mynd i ASD Info Cymru[1] ond nid oes rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio'r adnoddau. Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwrthod yr holl adnoddau hynny ac wedi dweud eu bod yn gwneud eu hadnoddau eu hunain, ond nid ydynt yn gwneud hynny.

·         Nid yw ASD Info Cymru yn darparu gwybodaeth wedi’i chyfieithu. Mae pobl Tsieineaidd wedi gofyn am hynny. Cynigiodd Chinese in Wales gyfieithu’r wybodaeth iddynt a gwrthodwyd y cynnig. Mae'n fater o gydraddoldeb ac mae iaith yn bwysig iawn. Mae angen i ddehonglwyr gael hyfforddiant mewn awtistiaeth hefyd a bod yn ymwybodol ohono.

 

 

6.   Addysg

·         'Mae ysgolion bob amser wedi fy siomi'.

·         Diffyg cymorth mewn ysgolion - mae'n ymddangos bod pobl yn wynebu'r un problemau yn awr ag y gwnes i pan oedd fy mab yn ifanc, ac mae ef bellach yn 27 oed.

·         Nid oes cymorth ar gael mewn addysg prif ffrwd.

·         Nid yw awdurdodau lleol yn casglu data ar nifer y plant sy’n cael eu gwahardd dros dro o ganlyniad i'w ASD.

·         Rwy’n cael galwadau ffôn tua unwaith yr wythnos i nôl 'plentyn â datganiad' hyd yn oed.

·         Nid yw athrawon na staff cymorth yn fodlon datrys unrhyw ymddygiad anodd.

·         Mae angen hyfforddiant mewn deall a chodi ymwybyddiaeth o awtistiaeth mewn ysgolion – nid yw’n cael ei ddeall na'i drin yn iawn.

·         Disgwylir i ysgolion adnabod a darparu adroddiad manwl i gyfeirio plant a allai fod ag awtistiaeth ond nid yw ysgolion yn eu hadnabod

·         Nid yw merched yn arbennig yn cael eu hadnabod gan eu bod yn ymddangos yn wahanol ac yn well am gopïo arwyddion cymdeithasol. 'Ni chawsom ein cymryd o ddifrif a dywedwyd wrthym na, mae’n ferch dda', a dim ond pan geisiodd gyflawni hunanladdiad y cawsom unrhyw gymorth yn y diwedd'.

·         Nid oes hyfforddiant dynodedig i athrawon

·         Mae angen inni godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, a derbyn awtistiaeth, yn enwedig mewn ysgolion.

·         Mae angen llwybrau clir. Ni nodwyd problemau penodol ar gyfer merched sy’n 'gweithredu ar lefel uchel'.

·         Yr unig lwybr yw drwy'r ysgol ac nid yw'n gweithio. Mae'n araf iawn ac mae oedi.

·         Dylai fod atgyfeiriadau gan feddygon teulu. Dylai fod llwybrau atgyfeirio clir mewn addysg ac iechyd.

·         Dim ond pedwar atgyfeiriad y tymor y gall ysgolion eu gwneud i seicolegwyr addysgol, felly’r plant aflonyddgar sy’n cael blaenoriaeth.

 

7.   Diagnosis ac amseroedd aros

Trafododd un grŵp bwysigrwydd diagnosis:

·         'Mae gan bob rhiant yr hawl i ddeall ei blentyn'.

·         Nid yw rhai gwasanaethau ar gael oni bai bod ganddynt ddiagnosis.

·         Mae diagnosis hefyd yn helpu pobl i ddeall pwy ydyn nhw.

·         Mae diagnosis 'yn agor cymaint o ddrysau'. Gellir cael cyngor gan Gyrfa Cymru, budd-daliadau, cymorth cyflogaeth

·         Yn Sir Benfro maent yn dweud y dylai unrhyw blentyn gael cymorth, boed ganddo ddiagnosis ai peidio, ond mewn gwirionedd nid yw'n digwydd.

 

8.   Sylwadau Cyffredinol

·         Mae Byrddau Iechyd yn dibynnu ar y sector gwirfoddol. Pan gewch ddiagnosis, rhoddir taflen NAS ichi a chewch eich trosglwyddo atynt hwy.

·         Mae angen asesiadau a diagnosis amserol.

·         Cafodd fy mab ei asesu ar ôl aros pum mlynedd, ac rydym yn dal i aros am y canlyniad bum mlynedd yn ddiweddarach.

·         Nid oes digon o arbenigwyr awtistiaeth ar dimau Anhwylderau Niwroddatblygiadol cyfredol.

·         Nid yw targed 26 wythnos Llywodraeth Cymru yn cael ei gyrraedd yn Sir Benfro nac ardaloedd eraill.

·         Yn Sir Benfro, Caerfyrddin a Cheredigion, mae dwy restr aros, un hanesyddol ac un ar gyfer atgyfeiriadau newydd - dywedwyd wrthym y dylai'r rhestr aros hanesyddol fod wedi mynd erbyn Ionawr 2019, ond dywedwyd hyn wrthym ddwy flynedd yn ôl hefyd... rydym wedi bod yn yr un sefyllfa ers 5-6 mlynedd bellach.

·         Mae'n loteri cod post. Mae amseroedd aros o ddwy flynedd a hanner yn Sir Benfro.

·         Mae'r Bil yn sôn llawer am ddiagnosis ond dim ond dechrau'r daith yw hynny - mae'n ymwneud â beth sy'n digwydd ar ôl hynny.

·         Ar ôl ichi gael diagnosis, nid oes cymorth ar gael. Eich cyfrifoldeb chi fel rhiant yw canfod lle mae'r gwasanaethau.

·         Gall oedolion bellach gael diagnosis cyflymach gyda'r IAS ond nid oes cymorth ar gael wedyn.

·         Rhestrau aros hir ar gyfer therapyddion iaith a lleferydd a therapyddion galwedigaethol - hyd at flwyddyn mewn rhai achosion.

·         Os oes gennych ddiagnosis eisoes, nid oes gennych fynediad i'r IAS yn ein hardal ni.

·         Mae’r IAS yn seiliedig ar ddiagnosis ond nid yw'n darparu ymyriadau.

·         Holodd un cyfranogwr a yw’r targed 13 wythnos yn y Bil yn ddigon hir, a dywedodd ei fod yn meddwl ei fod yn faen tramgwydd o ran pam bod gwrthwynebiad i'r Bil.

9.   Hyfforddiant i staff allweddol.

·         Mae stigma’n ymwneud â’r cyflwr o hyd - mae angen inni hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth.

·         'Heb y Bil ni fydd yr hyfforddiant hwn yn digwydd'.

·         Dylai hyfforddiant mewn awtistiaeth fod yn orfodol i bob gwasanaeth statudol, yn enwedig gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion a meddygon teulu.

 

10. Goblygiadau ariannol

·         Byddai ymyrraeth gynnar yn arbed arian yn y tymor hwy.

 

11.   A oes unrhyw beth ar goll?

·         Mae ymglymiad â'r heddlu a'r system cyfiawnder troseddol wedi ei hepgor.

 

Sesiwn gydag oedolion ag ASD yn Autism Spectrum Connections Cymru (ASCC)

Roedd chwech o oedolion ag ASD yn y sesiwn. Cymerodd mam un o'r cyfranogwyr a Gareth Morgan o ASCC ran mewn trafodaethau gyda'r Aelodau.

Y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS)

Yn gyntaf, mynegodd y grŵp bryderon am y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a theimlwyd fod lleisiau'r rheini sydd ag ASD ar goll o'r ffordd y cafodd y polisi ei ddatblygu.

Teimlai un cyfranogwr fod bwlch yn y cymorth a roddir gan yr IAS ym mhen isaf y sbectrwm yn dilyn diagnosis. Teimlent fod yr IAS wedi rhoi rhywfaint o gymorth ond o ran ceisio mynd yn ôl i'r gwaith, roedd bwlch yn y cymorth. Roedd yr IAS wedi eu cyfeirio at Cyngor ar Bopeth a'r Ganolfan Waith, ond ni chynigiwyd dim cymorth priodol. Teimlent nad oeddent o dan ddigon o anfantais i gael budd o'r cyrsiau a oedd ar gael, ond gallent fod wedi defnyddio cymorth gyda phethau eraill fel y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

Dywedodd staff ASCC fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud eu bod yn gwella sgiliau pobl mewn mannau fel swyddfeydd budd-daliadau ond nid dyma fu profiad y grŵp. Teimlent fod yn rhaid iddynt ddechrau eto ym mhob man y maent yn mynd gan nad oes dim ymwybyddiaeth o beth yw Awtistiaeth na dim dealltwriaeth o'r addasiadau a fyddai o gymorth iddynt. Roedd Canolfannau Gwaith a meddygfeydd yn enghreifftiau o sefyllfaoedd heriol a grybwyllwyd gan y grŵp, heb unrhyw ddewis i gyfarfod mewn man tawel yn hytrach nag amgylcheddau cynllun agored, swnllyd.

Dywedodd y cyfranogwyr hefyd fod cyfarfodydd yr IAS yn cael eu cynnal ar fore Llun yn Llyfrgell Caerdydd - amgylchedd swnllyd iawn nad yw'n groesawgar i unigolion ag ASD. Nid oeddent yn teimlo eu bod yno i helpu oedolion ag ASD sy'n gweithredu ar lefel uchel ac roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr wedi cael eu hanfon ar hyfforddiant nad oedd yn briodol iddynt. Dywedodd un cyfranogwr ei fod yn teimlo fel ymarfer ticio blychau i ddweud bod rhywbeth wedi cael ei gynnig, a bod y cyrsiau ôl-ddiagnostig a gynigir drwy’r ASC yn canolbwyntio llawer mwy ar gyflwr y sbectrwm ac yn llawer mwy buddiol.

Rhoddodd Gareth Morgan rywfaint o gyd-destun y cyrsiau a gynigir gan ASC, sydd wedi cael eu cydnabod gan y gymuned Awtistiaeth ehangach ledled y DU o ran symud pobl ymlaen i fwy o annibyniaeth, ond teimlai ei fod yn cael ei anwybyddu gan yr IAS. Roedd rhwystredigaeth hefyd bod yr IAS yn cyfeirio unigolion at y cymorth a gynigir gan ASCC ond ni chynigir dim cymorth o gyllid Llywodraeth Cymru i ddarparu'r gwasanaethau hyn gan nad yw'r rheini sy'n defnyddio’r cymorth yn cael eu hystyried yn 'ddifrifol'.

Teimlai’r cyfranogwyr fod yr IAS yn glir iawn o ran yr hyn y gall ac na all ei wneud, sef cyfeirio ac nid cefnogi, yn sylfaenol. Nid yw hyn yn gweithio i unigolion ag ASD. Mae'r cymorth sydd ei angen arnynt yn bersonol ac mae angen iddo fod yn hyblyg.

Teimlai'r grŵp fod diffyg cysylltiad rhwng yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud ei bod yn ei gyflawni a'r hyn sy'n cael ei gyflawni mewn gwirionedd.

Roedd rhwystredigaeth o ran gwybod bod £13 miliwn wedi'i ddyrannu i wasanaethau Awtistiaeth ond nad oeddent byth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Teimlai'r cyfranogwyr fod y gwasanaethau yn ASCC yn gweithio'n dda iddynt a’i fod yn wasanaeth cost-effeithiol ond oherwydd diffyg cyllid, roedd y gwasanaethau hynny’n cael eu torri ac nid oeddent yn gallu cael gafael arnynt mewn mannau eraill. Awgrymwyd bod y trydydd sector yn cael rhywfaint o'r cyllid i barhau i ddarparu gwasanaethau a oedd yn gweithio'n dda iddynt eisoes.

Fodd bynnag, teimlai’r grŵp fod angen cadw'r gwasanaeth diagnostig. Nodwyd fod rhestr aros o hyd at 12 mis yng Nghaerdydd ac nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn gwybod faint sydd wedi cael diagnosis.


Y Bil

Teimlai llawer yn y grŵp fod y Bil yn gam cadarnhaol ond roedd adran ar goll yn ymwneud ag oedolion ag ASD nad ydynt yn 'ddifrifol'. Teimlent eu bod yn grŵp anweledig yn y gymuned Awtistiaeth gan nad ydynt yn perthyn i'r categori plant neu oedolion sydd angen gofal o ddydd i ddydd ac nid ydynt yn effeithio ar ystadegau cyflogadwyedd ac anabledd. Teimlent eu bod yn unigolion cymwys â'r potensial i dalu trethi uchel, ond heb y cymorth ni allant gyfrannu’n ôl i gymdeithas.

Soniodd y grŵp am y cyrsiau ar-lein a grybwyllir yn y Bil i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith y rhai sy'n debygol o gefnogi pobl ag ASD, ac nid oeddent yn teimlo bod hwn yn gynnig digon da. Dywedodd un cyfranogwr nad yw ei deulu'n deall ei anghenion yn llawn o hyd felly ni fyddai cwrs ar-lein yn ddigonol.

Nododd y grŵp fod angen cymorth i lenwi ffurflenni ar oedolion ag ASD a bod angen i hyn ddod o ganolfan annibynnol fel ASC neu deulu. Nid oeddent yn teimlo bod y lefel hon o gymorth yn bosibl drwy wella sgiliau staff yn unig.

"Nid yw'r syniad y gallwch wella pethau trwy wneud pobl eraill yn 'ymwybodol' yn ddigon."

Wrth drafod a oedd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ymdrin â'r cymorth sydd ei angen ar y grŵp, teimlent yn gryf nad oedd y ddeddfwriaeth hon yn bodloni unrhyw anghenion. Dywedwyd fod yr IAS yn cael trafferth gydag atgyfeiriadau ar gyfer asesiadau gan nad yw'r offer yn iawn i asesu unigolion ag Awtistiaeth oherwydd bod y meini prawf yn seiliedig ar symudedd a'r gallu i ymolchi a gwisgo. Nid oedd llawer yn y grŵp yn ymwybodol chwaith bod ganddynt hawl i gael asesiad gan nad oedd Cyngor ar Bopeth na’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyfleu hynny. Roedd rhai ond yn gwybod am eu hawl trwy ASC.

Roedd y grŵp yn cefnogi syniad y Bil ond teimlwyd yn gryf nad yw'n golygu dim os nad yw'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn cael eu rhoi ar waith. Roeddent o'r farn bod angen ymgorffori gwasanaethau fel cymorth gwaith, cymorth prifysgol, a chymorth gyda ffurflenni budd-daliadau er mwyn gwneud gwahaniaeth iddynt.

Teimlent y bydd y Bil yn cryfhau'r angen am wasanaethau Awtistiaeth a chymorth ac yn darparu strwythur. Roeddent o'r farn bod angen canllawiau llymach a gwaith craffu ar y £13m a ddyrannwyd i gymorth Awtistiaeth gan nad ydynt yn teimlo bod yr arian yn cael ei wario lle mae ei angen.

Teimlai'r grŵp fod angen Bil i ddarparu diffiniad a fframwaith clir ar gyfer y gwasanaethau sydd ar gael a sut y maent yn cael eu darparu. Teimlai’r cyfranogwyr yn gryf hefyd y dylai unigolion ag ASD fod yn rhan o'r broses o ddatblygu'r fframwaith hwnnw.

Teimlai llawer fod y Bil yn syniad gwych ond ei fod yn rhy amwys o ran yr hyn y bydd yn ei gyflawni, felly gallai basio ac ni fyddai llawer yn newid. Mae angen neilltuo arian i ddarparu gwasanaethau ac ymrwymiad y bydd y system yn cael ei newid os na fydd yn gweithio.

Pwyntiau ychwanegol

Teimlai'r grŵp eu bod yn gorfod ymladd am bopeth a dywedodd un cyfranogwr nad oedd yn credu mai prosesau cwyno oedd y ffordd o ddiwallu eu hanghenion.

Nid oeddent yn teimlo bod unrhyw ddealltwriaeth o ba mor anodd yw hi i gael sgyrsiau, anfon negeseuon e-bost, mynd i rywle am y tro cyntaf.



[1] https://www.asdinfowales.co.uk/home.php?page_id=1&setLanguage=4